Advice Mid Wales

Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ

Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk

MATERION TEULUOL, PERTHYNAS A CHYMDOGAETH

Result
Logo_Advice_Mid_Wales

Gydag ymyrraeth ddoeth, a heb eu gelyniaethu, llwyddwyd i gael cymdogion newydd JG i gadw’u cŵn, oedd yn cyfarth yn ddi-baid, o dan reolaeth.


Mae hon yn sefyllfa hynod o emosiynol yn aml, a byddwn yn ei thrafod mewn modd sensitif, diduedd a hollol gyfrinachol. A yw eich perthynas chi wedi torri lawr a chithau yn ansicr o’ch hawliau? A yw eich partner yn eich cam-drin? Ydych chi’n dad a’ch hawliau ymweld yn cael eu gwrthod? Dewch atom ni am help a chyngor gyda: cyfrifoldeb rhieni; ysgariad; perthynas yn torri lawr, anghydfod a phlant; cynnal plant; camdriniaeth yn y cartref a dod o hyd i i gymorth cyfreithiol arbenigol pe bai galw amdano. Gallwn fod o gymorth hefyd os bu profedigaeth (marwolaeth) yn y teulu a’ch bod angen help gyda rhai o’r materion cymhleth fydd yn codi. Peidiwch oedi a phoeni, dewch i’n gweld rŵan.

Does dim amheuaeth nad yw rhai o’r problemau mwyaf poenus ac anodd eu datrys yn digwydd pan fo anghydfod rhwng cymdogion neu oddi mewn i gymuned.

Mae teimladau’n rhedeg yn uchel ac wedi bod yn cynyddu dros wythnosau neu flynyddoedd tra mae pobl yn amddiffyn eu heiddo neu ansawdd eu bywydau. Gall dicter neu ofn achosi i drafod uniongyrchol fod yn anodd neu yn amhosibl. Mae problemau yn cynnwys sŵn, sbwriel, gerddi, parcio, anifeiliaid anwes a phlant. Mewn achosion eithafol ble mae ymddygiad troseddol neu ddifrod yn gofyn am ymyrraeth heddlu a’r llysoedd, ond y rhan amlaf ni all y sefyllfa ond gwella wrth i’r ddwy ochr ddeall ei gilydd a chytuno i gyfaddawdu. Mae ein cynghorwyr hyfforddedig yn helpu cleientiaid i drafod eu problemau a’u gweld o wahanol onglau, a deall oblygiadau'r gwahanol ffyrdd o weithredu. Yna gallwn eu helpu i ddatblygu dulliau o ddod i ddealltwriaeth â’u cymdogion, yn ddelfrydol i wella sefyllfaoedd heb niweidio dim mwy ar eu perthynas.

Pe byddai’r ddwy ochr yn cytuno, gallem eich arwain tuag at wasanaeth cymodi.


 

Gadewch i ni eich helpu

CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM