Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ
Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk
Rydyn ni, Cyngor Canolbarth Cymru, yma i estyn help llaw gyda phroblemau a chymhlethdodau bywyd bob dydd.
Mae ein tîm o gynghorwyr hyfforddedig yn gallu helpu gydag unrhyw faterion ariannol neu ddyled allai fod gennych. Gallwn eich helpu gyda phroblemau budd-daliadau lles sy’n mynd yn fwyfwy dyrys, anghydfod cyflogaeth a chwynion defnyddwyr. Gallwn gynnig cyngor synhwyrol, ond gofalgar, ar faterion teuluol a pherthynas, cymorth gyda thai neu ddigartrefedd a mwy - wyneb-yn-wyneb, ar y ffôn neu ar e-bost. Rydym yn cynnig ymweliadau cartref i’r henoed, cleifion neu’r anabl. Gallwn, hefyd, fod efo chi mewn llys barn os ydych ein hangen wrth ddatrys anghydfod.
A gallwn warantu bod ein gwasanaeth yn broffesiynol, yn ddiduedd, yn hollol gyfrinachol, ac yn rhad ac am ddim i unrhyw un.
* Nodwch, os gwelwch yn dda nad ydym yn gallu cynnig cyngor Cyfreithiol na Mewnfudaeth. Er hynny, gallwn eich cyfeirio at rai fedr eich helpu.
CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYFRINACHOL • DIDUEDD • AM DDIM
PWYSIG!
Mae ein cynghorwyr angen cymaint o wybodaeth â phosibl, felly, a fyddech cystal â dod â’r gwaith papur angenrheidiol sy’n berthnasol i’r mater i gyd efo chi. Os na wnewch hynny gallai gymryd llawer yn hwy i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae’n hynod o bwysig os nad oes gennych ond amser byr i weithredu.