Advice Mid Wales

Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ

Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk

CWESTIYNAU CYFFREDIN (FAQ)

Machynlleth-Spend-Less-Live-More
  • C. Gan fy mod yn gweithio yn ystod yr wythnos, fedra i weld cynghorydd allan o oriau taro-mewn?
  • A. Medrwch. Ffoniwch neu e-bostiwch ni a bydd cynghorydd yn barod i’ch gweld ar adeg fydd yn gyfleus i’r ddau ohonoch.
  • C. Mae gen i ffurflenni sy’n rhaid i mi eu llenwi, ond nid wyf yn eu deall. Fedrwch chi wneud hynny ar fy rhan?
  • A. Gallwn yn sicr. Byddwn hefyd yn eu hegluro i chi fel eich bod yn eu deall yn llawn.
  • C. Rwy’n anabl ac yn methu gadael fy nghartref. Ydych chi’n ymweld â chartrefi?
  • A. Ydyn. Rydyn ni’n ymweld ag ysbytai hefyd os ydyw yn hollol angenrheidiol. Ffoniwch ni i wneud apwyntiad sy’n gyfleus i bawb.
  • C. Rydyn ni’n byw mewn tref fach, ac nid wyf eisiau i bawb wybod ein busnes.
  • A. Mae ein gwasanaeth yn hollol gyfrinachol a gallwch fod yn sicr, oni bai eich bod yn dweud fel arall, ni fydd neb - dim hyd yn oed aelodau o’ch teulu - yn gwybod eich bod wedi cysylltu â ni.
  • C. Mae gen i broblem gyda’m cymydog ac angen eich cyngor. Beth fyddai’n digwydd pe bai yntau yn dod atoch am gyngor hefyd?
  • A. Ni allwn gynghori a/neu gynrychioli ond un yn unig mewn unrhyw anghydfod, sef y person ddaeth atom yn gyntaf.
  • C. A yw’r cyngor a roddwch i mi yn gyfreithiol-rwym?
  • A. Dydyn ni ddim yn gyfreithwyr, felly nid yw’r cyngor a roddwn yn gyfreithiol-rwym. Ond mae ein cynghorwyr i gyd wedi’u hyfforddi mewn eiriolaeth, felly gallwch fod yn berffaith dawel eich meddwl y byddwch yn y dwylo gorau posibl.

 

Er Mwyn Tawelwch meddwl Gadewch i ni gynnig help llaw

CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM