Advice Mid Wales

Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ

Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk

Polisi Preifatrwydd

Cyffredinol: Oni bai eich bod yn darparu gwybodaeth yn wirfoddol, ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch pan fyddwch yn ymweld â https://www.advicemidwales.org.uk.

E-bost gennych: Efallai y byddwch yn e-bostio negeseuon i ni fydd yn cynnwys eich enw sgrin a chyfeiriad e-bost gydag unrhyw wybodaeth bellach oeddech yn dymuno’i gynnwys yn eich neges. Nid ydym yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol gyda thrydydd parti, oni bai eich bod chi wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

E-bost gennych:Efallai y byddwch yn e-bostio negeseuon i ni fydd yn cynnwys eich enw sgrin a chyfeiriad e-bost gydag unrhyw wybodaeth bellach oeddech yn dymuno’i gynnwys yn eich neges. Nid ydym yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol gyda thrydydd parti, oni bai eich bod chi wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

Defnydd o Wybodaeth Gwefan: Bydd ein serfiwr gwefan yn casglu gwybodaeth a’i gydgasglu am eich ymweliad â https://www.advicemidwales.org.uk, yn awtomatig, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, darparwr gwasanaeth, y math o borwr, enwau parth gwefannau cyfeirio, system weithredu, y tudalennau yr ymwelwyd â nhw ar ein gwefan, a dyddiad ac amser eich ymweliad. Nid yw’r wybodaeth hon yn ganfyddadwy i bawb yn bersonol. Yn hytrach rydym yn dadansoddi’r wybodaeth gyfan yn y gobaith o wneud y gorau o’ch profiad a gwella’r amser a warioch gyda ni ar-lein

PERTHYNAS TRYDYDD PARTI

Gallem ddatgelu neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol pe baem ni, yn hollol ddidwyll, yn credu bod y gyfraith yn galw am i ni wneud hynny, neu pe bai’n angenrheidiol i warchod neu amddiffyn hawliau neu eiddo Cyngor Canolbarth Cymru.

MYNEDIAD, CYWIRDEB A CHYNNAL GWYBODAETH BERSONOL

Rydym yn darparu mynediad rhesymol ac ymarferol er mwyn i chi fedru gweld os oes gwallau yn eich gwybodaeth bersonol. Os ydych yn cyflwyno’ch gwybodaeth bersonol i ni trwy wefan Cyngor Canolbarth Cymru, mae gennych yr hawl i gael mynediad i’r data.

Os ydych am gael diweddariad, addasiad neu ddileu unrhyw wybodaeth bersonol a gadwyd gan Cyngor Canolbarth Cymru, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda. Byddwn, ar eich cais, yn diweddaru neu ddileu eich gwybodaeth bersonol.

Byddwn yn cadw’r wybodaeth bersonol a gasglwyd trwy ein gwefan cyhyd ag y bydd ei angen arnom i weithredu’ch cais, neu hyd y byddwch yn gofyn am ei ddileu. Byddwn yn cadw’r wybodaeth a gydgasglwyd am eich ymweliad â’n gwefan (e.e. math o borwr, enw parth, tudalennau yr ymwelwyd â nhw) hyd nes y byddwn wedi cwblhau ein hadolygiad a’n dadansoddiad o’r wybodaeth hon.

Proses Eithrio: Os ydych yn gysylltwr â Cyngor Canolbarth Cymru mae’n bosib eich bod yn derbyn llythyrau uniongyrchol a deunydd marchnata gan Cyngor Canolbarth Cymru.

Gallwch gael eich eithrio ar unrhyw adeg o dderbyn llythyrau uniongyrchol a deunydd marchnata o Cyngor Canolbarth Cymru trwy gysylltu â Cyngor Canolbarth Cymru neu trwy ddilyn cyfarwyddiadau dad-danysgrifio (unsubscribe) a welir oddi mewn i’r ohebiaeth.

Pe byddem yn penderfynu ar unrhyw adeg yn y dyfodol defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ryw bwrpas nad yw wedi’i fynegi yn y Polisi hwn, byddwn yn addasu’r Polisi i ddatgelu’r defnydd hwnnw mewn cytundeb ag Adran 6 isod.

Dolenni i wefannau trydydd parti

Gall gwefannau y gallwn gael mynediad iddynt trwy https://www.advicemidwales.org.uk thrwy hypergysylltiadau neu ddolenni i safleoedd eraill gael eu rheoli gan bolisïau preifatrwydd ac ymarferion gwahanol i’r Polisi hwn.. Nid yw ymarferion gwybodaeth gwefannau trydydd parti eraill sydd â chyswllt â https://www.advicemidwales.org.uk wedi’u diogelu gan y Polisi hwn. Fe’ch anogir i ymgyfarwyddo â pholisïau preifatrwydd ac ymarferion pob gwefan y byddwch yn ymweld â hi cyn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol.

Y DEFNYDD O GWCIS

Ffeil decst fechan yw cwci sy’n cynnwys dynodwr unigryw a osodir ar ddisg galed eich cyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Nid ydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon.

NEWIDIADAU i BOLISI PREIFATRWYDD CYNGOR CANOLBARTH CYMRU

Mae’n bosib y byddwn yn addasu neu’n diwygio’r Polisi hwn o bryd i’w gilydd. Yn ein hymdrech i’ch hysbysu am newidiadau i’r Polisi byddwn yn nodi dyddiad y polisi cyfredol ar frig y Polisi. Pe byddai newidiadau sylweddol i’r Polisi hwn, byddem yn eich hysbysu trwy osod rhybudd amlwg ar ein tudalen gartref. Ni fydd newidiadau i’r Polisi hwn yn effeithio ar ein defnydd o wybodaeth bersonol a gyflwynwyd eisoes. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynwyd i ni dan delerau’r Polisi, (neu unrhyw fersiwn flaenorol o’r Polisi) yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd fydd yn anghyson heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gennych.

Derbyn: Trwy ddefnyddio: https://www.advicemidwales.org.uk, rydych yn arwyddo eich bod yn derbyn y Polisi hwn, a fydd yn cael ei ddiwygio o dro i dro i gyd-fynd â’r Newidiadau yn yr adran uchod i Bolisi Preifatrwydd Cyngor Canolbarth Cymru. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau ac amodau a gynhwysir yn y Polisi hwn, peidiwch â defnyddio’r wefan, os gwelwch yn dda.

 

Gadewch i ni eich helpu

CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM