Advice Mid Wales

Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ

Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk

ARIANNU

Logos

Nid yw Cyngor Canolbarth Cymru'n cael ei ariannu gan y Llywodraeth, ond yn hytrach trwy Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Elusennol yn ogystal â rhoddion hael gan gyfranwyr unigol. Rydym yn hynod o ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gawn gan drigolion Bro Ddyfi a thu hwnt.

Rydym yn werthfawrogol iawn o gyfraniadau ein harianwyr diweddar sy’n cynnwys: The Tudor Trust; Cyngor Sir Powys; Cronfa’r Eglwys yng Nghymru; Garfield Weston; Arian Cymunedol Comic Relief Community Cash; The Laspen trust; The Foyle Foundation; Tesco - Bags of Help; Elusennau Garthgwynion Charities; NHS Beat the Flu Campaign; Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm Y Mileniwm; The Waterloo Foundation.

Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i ‘roddwr anhysbys’ sydd wedi bod yn garedig iawn yn cyfrannu tuag at gostau cynnal dydd-i-ddydd y Ganolfan am y tair blynedd nesaf.

Rhoddion

Yn ychwanegol at hyn derbyniwyd cyfraniad gan y Cambrian News – Ras 10km; Clwb Rotari Tywyn; Cyngor Tref Machynlleth; Cyngor Cymunedol Ysgubor y Coed; Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru; Alun Griffiths Construction; Swyddfa’r Post Corris (blwch casglu).

Bu Codi Arian yn digwydd mewn digwyddiadau lleol gan staff a gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a chleientiaid. Rydym hefyd wedi derbyn rhoddion a werthfawrogwn yn fawr trwy Gyfeillion Cyngor Canolbarth Cymru (ffurflen i'w lawr lwytho/printio) a thrwy ein tudalen ar lein Just Giving.

Fundraising Promo-stall

Yn yr amseroedd caled hyn, rydym angen eich cymorth yn fawr iawn er mwyn medru parhau gyda’n gwaith. Mae dim ond talu biliau i gadw’r lle ar agor i fedru helpu pobl gyda’u problemau yn costio oddeutu £23,000 y flwyddyn o incwm rheolaidd.

Gwahoddwn ni chi i ymuno â Chyfeillion y Ganolfan Cynghori a chyfrannu tuag at ein costau. Yn gyfnewid byddwn ninnau’n medru aros ar agor i chi a’ch teuluoedd, gan fod wrth law bob amser gyda chymorth am ddim, diduedd a chyfrinachol.

Gofynnwn am ddim ond £5 neu fwy bob mis, ac os ydych yn dalwr treth gallwn hawlio £1.25 yn ychwanegol oddi wrth y Dyn Treth o’r dreth rydych wedi’i dalu eisoes.

Llenwch y ffurflen gyfraniad sydd i'w chael yma i chi ei lawr lwytho a'i dychwelyd i ni ynghyd a chyfraniad un tro neu gyfraniad blynyddol. Neu gallwch gwblhau'r Archeb Sefydlog a byddwn ninnau'n derbyn y rhodd gennych yn fisol. Fydd dim rhaid i chi gofio ei dalu i ni hyd yn oed!

I weld ein tudalen 'Just Giving' ar-lein, ac i gyflwyno rhodd dilynwch y ddolen Just Giving

 

Cofiwch wrth i chi ein helpu ni, gallwn ni eich helpu chi!