Advice Mid Wales

Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ

Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk

BANC BWYD BRO DDYFI

Food-Bank

Mae Banc Bwyd Bro Ddyfi yn bodoli ym Machynlleth ar gyfer y boblogaeth leol, ac mae’n darparu bwyd argyfwng am dri diwrnod i’r rhai sydd eu angen ar unwaith – e.e. yn aros am geisiadau budd-dal, colli swydd yn annisgwyl ayb.

Mae’r Banc Bwyd yn cynnig gwasanaeth defnyddiol, cyfrinachol a synhwyrol.

Helpodd Cyngor Canolbarth Cymru i sefydlu’r Banc Bwyd rai blynyddoedd yn ôl ac mae’r angen amdano yn parhau. Rydym ni, fel allfa bartner (outlet) yn rhannu o leiaf un parsel bwyd yr wythnos i’n cleientiaid ni yn unig.

Mae rhoi parsel bwyd yn dibynnu ar gwblhau ffurflen wirio argyfwng/anghenion y byddwn yn ei llenwi gyda’n cleient.


 

Gadewch i ni eich helpu

CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM