Advice Mid Wales

Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ

Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk

BUDD-DALIADAU LLES, CEISIADAU AC APELIADAU

Ydych chi ar gyflog isel (neu efallai, dim o gwbl?) Oes gennych chi broblemau iechyd a/neu anabledd sy’n eich rhwystro rhag gweithio? Ydych chi’n cael anhawster i dalu’r rhent a threth y cyngor? Ydych chi’n poeni am ba fudd-daliadau yn union y gallwch eu hawlio, yn enwedig ers i newidiadau ym mudd-daliadau iechyd ddod i rym? Ydych chi’n bensiynwr/wraig sy’n ei chael yn amhosibl i gael dau benllinyn ynghyd? Ydych chi’n gofalu am rywun sy’n derbyn Taliad Annibyniaeth Personol? Dim arian i anghenion arbennig? Beth bynnag yw eich problem, gallwn wneud gwiriad Budd-daliadau i chi, gallwn eich helpu i gyflwyno cais amdanynt, ac yn fwy na hynny, pe bai eich cais yn cael ei wrthod, gallwn eich helpu i apelio lle bo hynny’n briodol.

Gallwn eich helpu efo rhai budd-daliadau megis • Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith (IBJSA neu JSA) • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) • Tâl Salwch Statudol • Lwfans Beichiogrwydd • Pensiwn Ymddeol o Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) • Lwfans Gweini • Lwfans Gofalwyr • Credyd Treth Gwaith • Credyd Treth Plant • Budd-dal Tai • Budd-dal Tai Cyngor • Benthyciadau Argyfwng • Grantiau Gofal Cymunedol/benthyciadau cyllidebu • Taliad Profedigaeth a/neu Daliadau Angladd

PWYSIG!
Mae ein cynghorwyr angen cymaint o wybodaeth â phosibl, felly, a fyddech cystal â dod â’r gwaith papur angenrheidiol sy’n berthnasol i’r mater i gyd efo chi. Os na wnewch hynny gallai gymryd llawer yn hwy i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae’n hynod o bwysig os nad oes gennych ond amser byr i weithredu.

Result
Logo_Advice_Mid_Wales

Buom yn helpu IR i gael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) seiliedig ar gyflog yn ogystal â Lleihad mewn Treth Tai a Threth y Cyngor er mwyn ychwanegu at incwm ei deulu.


Result
Logo_Advice_Mid_Wales

Gyda’n cymorth ni, derbyniodd BE Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), gradd uwch i’w char Motability.


Y CREDYD CYNHWYSOL NEWYDD

Ym Mai 2016 dechreuodd gwasanaeth llawn y Credyd Cynhwysol (UC) i bob math o hawlwyr, ledu’n genedlaethol (tu hwnt i Lundain). Cynhyrchwyd diweddariad i’r amserlen yn Chwefror 2018 oherwydd newidiadau yn rhwydwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau'r Ganolfan Waith yn dilyn Cyllideb 2017.

I rai dros 16 oed ac o dan oed pensiwn y wladwriaeth, gobeithir lledaenu proses gwasanaeth llawn y Credyd Cynhwysol yn Rhagfyr 2018. Ar ôl cwblhau’r broses hon, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dechrau symud pob hawliwr budd-dal sydd ar ôl i wasanaeth llawn y Credyd Cynhwysol fydd yn dechrau yn 2019. Y bwriad yw cwblhau’r broses hon erbyn Mawrth 2022.

Disgwylir cyflwyno’r Credyd Cynhwysol i Bowys a Gwynedd yn ystod Medi 2018, a Cheredigion yn Hydref 2018, i bob hawliwr newydd (a phob hawliwr sy’n bodoli eisoes yn 2019). Un budd-dal yw Credyd Cynhwysol sy’n cymryd lle Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai, Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith.

* Nodwch, os gwelwch yn dda nad ydym yn gallu cynnig cyngor Cyfreithiol na Mewnfudaeth. Er hynny, gallwn eich cyfeirio at rai medr eich helpu.


 

Gadewch i ni eich helpu

CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM