Advice Mid Wales

Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Ffordd y Bontfaen
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ

Tel: 01654 700192
Ebost: enquiries@advicemidwales.org.uk

TAI A DIGARTREFEDD

Ydych chi’n denant sy’n cael trafferthion gyda’ch landlord? Ydych chi’n ansicr beth yn union yw eich cytundeb fel tenant? Ydych chi’n wynebu cael eich troi allan oherwydd dyledion rhent? Ydych chi’n landlord gyda thenantiaid ofnadwy o anodd? Ydych chi’n berchennog tŷ gyda dyledion morgais? Ydych chi’n ddigartref neu’n byw mewn hostel? Ydych chi’n gymwys ar gyfer tŷ cymdeithasol ar unwaith? Gallwn eich helpu gyda’r materion hyn a llawer o faterion a phroblemau eraill.

Fel gwasanaeth ychwanegol i’r gymuned, rydym yn cynnig benthyg swyddfa unwaith y mis i dîm Datrysiadau Tai Cyngor Sir Powys a’r Wallich Homeless Charity.

Result
Logo_Advice_Mid_Wales

Rydym wedi llwyddo i gael tŷ cymdeithasol i JR, ei wraig a’i baban’ oedd yn byw ar rent mewn carafán afiach.


Result
Logo_Advice_Mid_Wales

Buom yn trafod gyda landlord Mr & Mrs W i beidio rhoi rhybudd ar y tŷ roeddent wedi’i rentu am rai blynyddoedd, er gwaethaf dyledion rhent. Gwnaethom drefniadau iddynt fedru talu’u dyledion bob yn dipyn.



 

Gadewch i ni eich helpu

CYMORTH • CYNGOR • GWYBODAETH
CYNRYCHIOLI • DIDUEDD • AM DDIM